Mark Drakeford AC
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
5 Chwefror 2016
Annwyl Weinidog,
Ynghylch: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Rwyf yn hynod falch bod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol gan fod rheoleiddio ac arolygu materion gofal cymdeithasol yn bwysig i bobl hŷn ac yn cael effaith glir ar ansawdd eu bywydau.
Fel rhan o’m gwaith craffu parhaus ar y Ddeddf ac fel rhan o’m swyddogaeth statudol i adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru, rwyf yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn trafodaethau cynnar i ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth eilaidd a gaiff ei drafftio i gyd-fynd â’r Ddeddf. Fel rwyf wedi nodi eisoes, roedd y Gofynion ar gyfer Gweithredu a wnaed yn fy Adolygiad i o Gartrefi Gofal wedi’u drafftio mewn ffordd fel bod posib bwrw ymlaen â hwy o dan y ddeddfwriaeth hon. Felly, byddaf eisiau gweld y Gofynion ar gyfer Gweithredu perthnasol yn cael eu hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth eilaidd. Bydd fy swyddfa’n gwneud cais am gyfarfod gyda’r swyddog arweiniol yn y maes hwn, er mwyn sicrhau cydweithio agos, a byddaf yn rhannu fy nghraffu ar y rheoliadau sy’n sail iddi gyda’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nesaf.
Er mwyn sicrhau bod fy ngwaith craffu’n effeithiol, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn gallu rhoi amserlen i mi ar gyfer drafftio'r rheoliadau, gan gynnwys pryd bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal a dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r Nodiadau Esboniadol i gyd-fynd â’r Ddeddf. Hefyd, byddaf yn darparu i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol amserlen i gadarnhau’r gweithredu sydd ar droed er mwyn bwrw ymlaen â’m Gofynion ar gyfer Gweithredu yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal, gan gynnwys y rhai sydd i’w gweithredu drwy gyfrwng y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.
Yn gywir,
Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Copi i: Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Theuluoedd
Copi i: David Rees AC, Cadeirydd, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol